Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

CYPE(4)-01-15 – Papur 1

Bil Cymwysterau Cymru

Tystiolaeth gan :  CBAC

 

Cyflwyniad

 

Mae’r hyn a fwriedir trwy’r Bil Cymwysterau Cymru yn cael ei groesawu’n gyffredinol gan CBAC.  

 

Yn benodol, mae’n bwysig (fel y nodir yn adran 6 y Memorandwm Esboniadol) bod y Bil yn “darparu ar gyfer sefydlu Cymwysterau Cymru fel rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer Cymru”. Tra’n cydnabod fod y cyfyngiadau y cyfeirir atyn nhw yn adran 49 o’r  Memorandwm Esboniadol wedi ymddangos yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae diffyg annibyniaeth y trefniadau rheoleiddio cyfredol wedi bod yn destun pryder ers i swyddogaethau’r ACCAC blaenorol gael eu symud i mewn i Lywodraeth Cymru.

 

Mae CBAC ymhlith y nifer arwyddocaol o ymatebwyr y cyfeirir atyn nhw yn adran 19 y Memorandwm Esboniadol a wnaeth fynegi “pryderon am gyfuno swyddogaethau rheoleiddio a dyfarnu o fewn un corff”.  Rydym felly yn cytuno â’r doethineb a ddangosir yn y deddfu arfaethedig, h.y. “nid yw’r Bil hwn yn sôn am swyddogaethau dyfarnu” (adran 20 y Memorandwm Esboniadol).

 

I’r graddau bod gan CBAC bryder am agweddau o’r Bil, mae’r rhain yn tueddu i ymwneud â:

 

Adran 3: Prif amcanion Cymwysterau Cymru

 

Mae’r prif amcanion fel y nodir yn adrannau 3 (1) (a) a (b) yn ymddangos yn briodol, ond byddai’n rhesymol i ychwanegu un a fyddai’n ymwneud yn uniongyrchol â bodloni gofynion dysgwyr.
 

Adran 5: Dyletswydd i osod meini prawf cyffredinol ar gyfer cydnabyddiaeth

 

Mae’n hanfodol bod meini prawf ar gyfer cydnabyddiaeth yn cael eu gosod a’u cyhoeddi, ond yn adran 5 (2) dylai’r “darpariaeth wahanol ar gyfer cyrff dyfarnu gwahanol” fod ar sail gwahaniaethau yn y cymwysterau y mae gwahanol gyrff dyfarnu yn dewis eu darparu, neu fel arall gall anhawster godi o ran ymdriniaeth teg a chyfartal ar gyfer cyrff dyfarnu gwahanol.

 

Adran 8:  Cydnabod corff dyfarnu yn gyffredinol

 

Bydd angen gwneud defnydd gofalus o’r ddarpriaeth o fewn adran 8 (3) ar gyfer cydnabod corff dyfarnu hyd yn oed os nad yw yn bodloni’r holl feini prawf cyffredinol yng nghyd-destun adran 8 (4) er mwyn sicrhau triniaeth deg a chyfartal ar gyfer pob corff dyfarnu.

 

Adran 9: Cydnabod corff dyfarnu ar gyfer cymhwyster penodol

 

Mae ystyriaethau tebyg i’r rhai a nodwyd uchod ar gyfer meini prawf cyffredinol hefyd yn berthnasol i adran 9 (3).

 

 

Adran 10:  Pwer i osod rheolau ynghylch ceisiadau am gydnabyddiaeth

 

Mae cyhoeddi rheolau ar gyfer ceisio am gydnabyddiaeth yn hanfodol, ond dylid nodi y bydd unrhyw ffi sy’n daladwy wrth wneud cais, os yn sylweddol, yn debygol o effeithio ar y ffioedd y bydd corff dyfarnu yn eu codi ar ddefnyddwyr eu gwasanaethau.   

 

Adran 12:  Cydnabyddiaeth: dehongliad

 

Mae’r eglurhâd a ddarperir yn adran 12 (3) [a hefyd yn adran 52 (4)] yn ddefnyddiol o ran bod “dyfarniad cymhwyster yng Nghymru” yn cael ei ddiffinio fel “ei ddyfarnu i bersonau a asesir mewn perthynas â’r cymhwyster yn bennaf neu yn llwyr yng Nghymru”. Yn ymarferol, ar gyfer dysgwr unigol, bydd yr asesiad ar gyfer cymhwyster fel arfer wedi ei leoli yn llwyr neu’n bennaf yn lleoliad daearyddol y sefydliad a gydnabyddir gan y corf dyfarnu fel y “ganolfan” (ysgol / coleg / ddarparwr dysgu) sy’n cofrestru’r dysgwr ar gyfer y cymhwyster, ac felly mae hyn yn rhoi modd i ddefnyddio’r diffiniad yn weithredol. Mae’n bwysig bod y diffiniad yn ddigon cadarn i rwystro cofrestriadau anaddas rhag cael eu gwneud ar ran unigolion na ddylai mewn gwirionedd fod yn gymwys ar gyfer “dyfarniad cymhwyster yng Nghymru”. Mae’n bosibl hefyd wrth gwrs y gall rhai cymwysterau a gymeradwyir gan Gymwysterau Cymru o ddiddordeb i ddysgwyr y tu allan i Gymru mewn awdurdodaeth lle mae’r cymhwyster yn dderbyniol o safbwynt rheoleiddiol.

 

Adran 13:  Dyletswydd i ddarparu rhestr o gymwysterau blaenoriaethol

 

Tra bod yr amcanion gweithredol o fewn adran 14 (4) yn berthnasol ar gyfer rhai cymwysterau, mae angen gofal wrth gyflwyno’r syniad bod “sicrhau a chynnal hyder cyhoeddus mewn cymhwyster” yn flaenoriaeth uwch ar gyfer rhai cymwysterau nag ar gyfer rhai eraill. Mae gan ddysgwyr a rhanddeiliaid yr hawl i ddisgwyl y gellir bod yn hyderus ynghylch yr holl gymhwysterau sy’n cael eu cydnabod gan Gymwysterau Cymru. Dylid rhoi ystyriaeth felly i ddiffinio cymwysterau blaenoriaethol yn uniongyrchol yn nhermau amcanion 14 (4) (a) yn hytrach na cheisio gwahaniaethu ar sail yr ystyriaeth ehangach o hyder.

 

Adrannau 15-17:  Cymwysterau blaenoriaethol cyfyngedig, gyda neu heb drefniadaeth adran 15

 

Er bod y Memorandwm Esboniadol (adran 83) yn cyfeirio at y posiblrwydd o newid y system o fod yn un sy’n “ymateb i’r cyflenwad i fod yn un sy’n ymateb i’r galw” dylid nodi taw ffocws yr adrannau hyn yw darparu modd o gyfyngu ar yr amrywiad sydd ar gael ar yr ochr gyflenwi ar gyfer y cymwysterau blaenoriaethol. Mae’r bwriad polisi hwn eisoes ar waith o fewn dull presennol Llywodraeth Cymru o fynd ynghylch diwygio rhai cymwysterau TGAU, ac mae’n ymddangos bod adrannau 15-17 yn darparu modd mwy tryloyw o gyrraedd at y nôd o gyfyngu ar yr hyn a gyflenwir.  Gall y ddarpariaeth yn adran 15 (2) ar gyfer “taliadau i’w gwneud gan Gymwysterau Cymru mewn perthynas â’u datblygu” fod yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun cymhwyster lle bydd maint y galw yng Nghymru yn debygol o fod yn rhy isel i’w wneud yn hyfyw o safbwynt y corf dyfarnu. Gall anhyfywedd o’r fath hefyd nodweddu darpariaeth cyfresi asesu, ac rydym yn tybio bod y ddarpariaeth gyffredinol i roi grantiau (adran 45) yn caniatau i Gymwysterau Cymru gefnogi’r ochr ddarparu mewn achosion o’r fath.


Adran 22:  Amodau cymeradwyo

 

Tra ei bod yn ddoeth caniatau am y posiblrwydd o newid amodau yn dilyn cymeradwyo cymhwyster, dylid gwneud defnydd prin o’r ddarpariaeth honno yn adran 22 (2). Hefyd, ar gyfer materion yn ymwneud ag amseru’r rhybudd y cyfeirir ato yn adran 22 (5), dylid ystyried yr effaith posibl ar ddysgwyr sydd eisoes wedi cychwyn ar astudiaethau sy’n berthnasol i’r cymhwyster. Mae’n bosibl y byddai geiriad tebyg i adran 25 (6) (a) ac adran 27 (9) yn briodol.

 

Adran 24: Rheolau ynghylch ceisiadau am gymeradwyo 

 

Fel yn adran 10, mae cyhoeddi rheolau ar gyfer ceisiadau ar gyfer cymeradwyo yn hanfodol, ond dylid nodi y bydd ffioedd sy’n daladwy mewn perthynas ag unrhyw gais, os yn sylweddol, yn debygol o effeithio ar y ffioedd y bydd corff dyfarnu yn eu codi ar ddefnyddwyr eu gwasanaethau.   

 

Adran 29: Cyfyngiad ar gyllido a darparu rhai cyrsiau

 

Nid yw cyflwyno yn adran 29 (3) yr ymadrodd “fersiwn Cymreig o gymhwyster” yn llawer o gymorth, ac mae’n ymddangos yn ddiangen yng nghyd-destun yr adrannau blaenorol sy’n seiliedig ar “gymwysterau wedi eu cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru” fel disgrifiad mwy addas.

 

Adran 40: Darpariaeth gwasanaethau ac ati gan Gymwysterau Cymru

 

Byddai darpariaeth gan Gymwysterau Cymru o wasanaethau ymgynghorol a gwasanaethau eraill cysylltiedig â’i swyddogaethau neu faterion eraill yn ymwneud â chymwysterau ar sail masnachol yn dod â photensial arwyddocaol o wrthdaro buddiannau. Bydd hyn yn arbennig o wir pan fo gan sgôp y gwasanaethau ymgynghorol neu wasanaethau eraill unrhyw ryngwyneb posibl â chymwysterau fyddai yn ddiweddarach yn cael eu cyflwyno ar gyfer eu cymeradwyo gan Gymwysterau Cymru. Os bydd darpariaeth adran 40 (1) yn cael ei gadw o gwbl, mae angen cyfeiriad clir at sicrhau bod sgôp gwaith o’r fath yn cael ei wirio rhag y posiblrwydd o wrthdaro buddiannau sy’n gyfredol neu yn y dyfodol.

 

Adran 41: Adolygu ac ymchwil

 

Mae’n ymddangos bod adran 41 (1) (b) yn gosod sylfaen i Gymwysterau Cymru ymwneud â chyrff dyfarnu, gan gynnwys bod yn rhagweithiol, ar faterion yn ymwneud â dyfarnu cymwysterau. Mae’r ddarpariaeth hon felly yn allweddol o ran gosod a chynnal safonau dyfarnu ar gyfer cymwysterau sydd wedi eu cymeradwyo gan Gymwysterau Cymru.

 

Adran 45:  Grantiau

 

Mae’r ddarpariaeth gyffredinol ar gyfer gwneud grantiau yn bwysig a dylid nodi mai un o’r grantiau cyfredol (a roddir gan Lywodraeth Cymru ac yn flaenorol gan ACCAC) yw’r un sy’n gwneud cyfraniad at gynnal y costau ychwanegol sy’n deillio o ymateb i anghenion dwyieithog y gyfundrefn asesu yng Nghymru. Byddai absenoldeb grant o’r fath yn cael effaith ar y ffioedd y byddai angen i gorff dyfarnu eu codi ar ddefnyddwyr eu gwasanaethau. Er mwyn diogelu buddiannau rhanddeiliaid, dylid ystyried gwneud cyfeiriad penodol o fewn y Bil at y maes hwn o ddarpariaeth grant.